SL(5)087 – Higher Education Funding Council for Wales Financial Management Code (Cyflwynwyd yn Saesneg yn unig)

Cefndir a phwrpas

Mae’r Cod Rheoli Materion Ariannol hwn (“y Cod”) yn gosod y gofynion ynghylch trefnu a rheoli materion ariannol y mae’n rhaid i sefydliadau rheoleiddiedig ymrwymo eu hunain iddynt. Hwn yw’r Cod cyntaf a baratowyd o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).

Gweithdrefn

Drafft negyddol.

Os yw Gweinidogion Cymru’n cymeradwyo drafft o’r Cod, mae’r weithdrefn drafft negyddol yn adran 30 o Ddeddf 2015 yn darparu:

-     ni chaiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) gyhoeddi’r Cod nes ar ôl y cyfnod o 40 niwrnod, sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, ond

-     os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft cyn diwedd y cyfnod hwnnw, ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r Cod (a rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo, a bydd y weithdrefn drafft negyddol yn dechrau o’r newydd eto).

Craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nid yw’r Cod yn offeryn statudol, felly nid yw’r Pwyllgor yn adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3.

Mae’r Pwyllgor yn ystyried y Cod ac yn adrodd arno o dan:

-     Rheol Sefydlog 21.7(i): unrhyw is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Cynulliad;

-     Rheol Sefydlog 21.7(v): unrhyw fater deddfwriaethol cyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru.

Pwyntiau adrodd

Mae’r Pwyllgor yn adrodd bod y Cod (sy’n gymwys i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru) yn Saesneg yn unig.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

30 Mawrth 2017